Er yr holl newidiadau yn y modd mae pobl yn cyfathrebu, mae system ffôn yn parhau i fod yn hanfodol bwysig i fusnesau. Mae’n galluogi sefydliadau i gyfathrebu’n effeithiol gyda’i cyflenwyr a chynnal gwasanaeth o safon i’w cwsmeriaid. Os yn trafod prosiect efo cydweithwyr, yn gwerthu i gwsmer neu’n chwilio am fargen wrth gyflenwr, mae system ffôn dibynadwy yn angenrheidiol i fusnes.
Beth rydym yn ei gynnig
Mae BCC yn darparu systemau ffôn yn seiliedig ar dechnoleg IP gyda galwadau a rhent llinellau rhad. Deallwn bod anghenion ffôn bob busnes yn wahanol. O’r systemau un-defnyddiwr i blatfformau cymhleth sydd yn cwrdd ag anghenion defnyddwyr modern – yn uno’r ffôn ddesg, symudol a chyfrifiaduron.
Gall BCC gynnig pecynnau hyblyg ac addasol yn amrywio o fodel sy’n seiliedig ar system yn y cwmwl â gyllidir yn fisol, i ddatrysiad taliad unigol gyda’r caledwedd yn eich swyddfeydd.
Manteision Systemau Ffôn IP
Hawddach i’w gosod o’i ffurfweddu na systemau analog neu digidol traddodiadol
Hawddach i’w rheoli drwy rhyngwyneb Gwe/GUI
Dileu’r angen am geblau ffôn yn eich swyddfeydd trwy ddefnyddio cebl rhwydwaith cyfrifiadurol
Arbedion ariannol sylweddol drwy ddefnyddio cyflenwyr VoIP
Hawdd i’w ehangu yn unol a’r gweithlu
Yn galluogi defnydd desg-boeth a chrwydro
Beth i ddisgwyl wrthym
Rydym yn cynnig 2 prif fath o ddatrysiad ffôn:
System Caledwedd ar-safle
System sydd yn cynnwys yr holl caledwedd canolog angenrheidiol gyda amryw setiau llaw (ar draws wahanol swyddfeydd os oes angen) wedi eu cysylltu i’r prif hwb sydd wedi ei osod yn un o’ch swyddfeydd. Defnyddir offer mur-gwarchod i alluogi a diogelu cyfathrebu rhwng swyddfeydd dros y rhyngrwyd.
System Ffôn yn y Cwmwl
Tra’n cynnig yr un manteision a’r system ar-safle, mae’r caledwedd canolog yn eiddo i BCC ac yn cael ei leoli yn ein canolfan ddata diogel. Ariannir y datrysiad ar fodel nifer-o-ddefnyddwyr-y-mis sydd yn galluogi’r system i ehangu neu lleihau yn ôl galw eich gweithlu. Medrwch symud y setiau llaw o leoliad i leoliad ond bod yna gysylltiad safonol a dibynadwy i’r we, tra’n cynnal yr un rhif estyniad, post llais a nodweddion cyfathrebu eraill.
Gall y system hefyd ymgorffori dyfeisiadau symudol gan alluogi fersiwn rhith o’ch set llaw pan allan o’r swyddfa. Yn amlwg mae hyn yn galluogi gwell rheolaeth o gysylltiadau, amserlenni ac yn bwysicach, yn lleihau y gost o alwadau.
Rydym yn medru cyflenwi bob math o linellau ac isadeiledd perthnasol i alluogi’r system ffôn i gwrdd ag anghenion y cwsmer, yn ogystal a’i ddiogelu rhag peryglon Phreaking. Mae hyn yn atodol i wasanaethau ISP eraill BCC (sydd yn cynnwys band llydan, ffibr, parthau, gwe-letya, FTP, ayyb).
Mae cymhlethdodau system ffôn yn niferus, felly os ydych am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda ni i drafod eich anghenion ac opsiynau.
“It makes life a lot easier now that BCC manage our telephone system as well. It now means we have a one-stop shop for all our hardware, software and communication systems requirements. And, as BCC fully understand our business needs we know everything will work together seamlessly.” Edna Holmes Rhyal Engineering |
Ymlaciwch
Canolbwyntiwch ar eich busnes
Leave IT to us
Cwblhewch y ffurflen isod i ddanfon neges at BCC
Website Design Internet Creation