BCC External

Beth rydym yn eu wneud

Hanes BCC

Cwrdd â’r tîm

Beth rydym yn eu wneud

Technoleg Gwybodaeth (TG): yw’r defnydd o unrhyw gyfrifiaduron, storfeydd, rhwydweithiau, isadeiledd, dyfeisiadau materol eraill a phrosesau i greu, prosesu, storio, diogelu a chyfnewid pob math o ddata electronig.

Ffynhonnell: www.techtarget.com (cyfieithiad)

 

Gall TG cynyddu eich effeithiolrwydd, perfformiad ac yn y pen draw, eich elw!

Gall TG hefyd leihau eich elw os nad ydych yn ei gynllunio, trefnu a’i reoli’n gywir.

Mae BCC yn sicrhau bod TG yn cael effaith positif ar eich busnes

Fel pob proses busnes arall, trwy ei ddefnyddio’n gywir, gall TG ychwanegu gwerth i’ch cwmni

Yn ôl i'r brig

Hanes BCC

 

 

Sefydlwyd BCC yn dawel bach yn 1987, yn masnachu o fferm Blaenachddu o dan yr enw Blaenachddu Computer Centre.  O’r dechrau roedd yn cwmni grediniol dros sicrhau boddhad eu cwsmeriaid ac yn defnyddio’r slogan “Gall rhai gystadlu ar bris, ond gall neb gystadlu ar wasanaeth”. Llwyddodd tyfiant, trwy enw da a geirda, sicrhau i BCC fod yn un o’r cwmnïau gwasanaeth TG mwyaf yng Ngorllewin Cymru yn y 90’au.

Bu’r newid mwyaf yn hanes BCC yn ystod 2002, gyda’r cwmni’n newid strategaeth i ganolbwyntio bron yn llwyr ar y sector busnes. Sicrhawyd adeiladau pwrpasol yn cynnwys gweithdai technegol a chyfleusterau desg gymorth priodol. Roedd yr agwedd newydd, ffres yma yn cyd-fynd gyda newid yn enw’r cwmni i BCC IT Solutions – er nad oedd hyn yn golygu bellhau o'r iaith Gymraeg gan fod BCC yn cynnig gwasanaeth hollol ddwyieithog hyd heddiw.

Glynwyd at y strategaeth o “enw da a geirda” i sicrhau busnes newydd trwy y blynyddoedd trawsnewidiol yma, a gwelwyd tyfiant cymedrol hyd yn oed trwy dirwasgiad y 00’au hwyr. Yn ystod y cyfnod caled yma llwyddwyd i gynyddu’r nifer o gwsmeriaid trwy ehangu i wasanaethu ardaloedd eraill o’r DU. O ganlyniad bellach mae BCC yn cynnig cymorth TG i sefydliadau o wahanol maint bron ymhob sector masnachol.

Mewn datblygiad strategol diweddar, dyblwyd maint swyddfeydd y cwmni a mabwysiadwyd cynllun marchnata i atgyfnerthu’r polisi “enw da a geirda” llwyddiannus. Ar gychwyn y cyfnod cyffrous newydd yma, dilëwyd y gair “Solutions” o enw masnachu’r cwmni a chanolbwyntiwyd ar gyfnerthu brand BCC gyda delwedd sydd yn adlewyrchu’r gwerthoedd sydd wedi ei selio’n ddwfn yng ngwreiddiau’r cwmni. Rydym yn ffyddiog bydd y strategaeth yma yn galluogi BCC i barhau i helpu busnesau wireddu eu nodau am flynyddoedd i ddod.

Yn ôl i'r brig

Cwrdd â’r tîm

Cliciwch ar lun i weld mwy:

Yn ôl i'r brig

BCC IT ar Twitter

Ymlaciwch

Canolbwyntiwch ar eich busnes

Leave IT to us

Cysylltwch gyda ni

Cwblhewch y ffurflen isod i ddanfon neges at BCC

Cynorthwywch ni i osgoi SPAM trwy dicio’r blwch isod

Website Design Internet Creation