Camerâu Cylch Cyfyng

 

Gyda anghenion diogelwch ac atebolrwydd cynyddol mae Camerâu Cylch Cyfyng yn hanfodol i nifer of fusnesau. Gall BCC darparu a gosod datrysiadau sy’n galluogi monitro staff, ymwelwyr, stoc, peiriannu, prosesau, ayyb a hynny o unrhyw le yn y byd gyda cysylltiad i’r we.

 

Beth rydym yn ei gynnig

O systemau Camerâu Cylch Cyfyng syml sy’n cynnwys un neu ddau dyfais, i ddatrysiadau llawer mwy cymhleth, mae gan tîm BCC yr arbenigedd a phrofiad i ddarparu system sydd yn cwrdd a gofynion unrhyw sefydliad.

  • Camerâu lliw safonol i 720p gyda rheolaeth canolog syml sy’n cynnwys storio, adalw a monitro.

  • Mae’r camerâu proffesiynol yn cynnwys technoleg HD 1080p yn y dydd a nos, yn ogystal a’r gallu i chwyddo’r llun hyd a 3x i sicrhau bod modd dal y delweddau rydych eu angen.

  • Dewis o opsiynau mowntio ar gael, o math nenfwd i bolion yn ogystal a chamerâu rhannol-gudd bach gall ei mowntio’n magnetig.

  • Cynigwn cytundebau gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer systemau Camerâu Cylch Cyfyng sy’n cynnwys ymateb argyfyngol lle bo angen.

 

Gall system sydd wedi ei gynllunio a’i osod yn briodol fod yn arf ataliol hynod effeithiol yn erbyn darpar troseddwyr.  Mae’r delweddau a storir gan y camerâu hefyd yn cynnig tystiolaeth o gamymddwyn gelli’r ei basio i’r heddlu neu swyddogion eraill. Medrwch monitro y camerâu o unrhyw ddyfais sydd a chysylltiad digonol i’r we unrhyw le yn y byd!

 

Mae’n datrysiadau Camerâu Cylch Cyfyng yn cynnwys:

  • Systemau CCC annibynnol

  • Systemau CCC gall eu monitro o bell

  • CCC isgoch

  • Camerâu diffiniad uchel (1080p)

  • Camerâu cydraniad uchel (720p)

  • Camerâu rhannol-gudd

  • CCC dros IP (defnyddio eich rhwydwaith IP cyfredol i leihau ceblau ychwanegol)

 

Beth i ddisgwyl wrthym

I sicrhau ein bod yn darparu y system cywir i chi, rydym yn gweithredu proses trwyadl:

  • Bydd BCC yn ymweld a’r safle i gynnal arolwg.
  • Yn ystod yr arolwg byddwn yn gofyn nifer o gwestiynau i sicrhau dealltwriaeth lawn o’r anghenion.
  • Unwaith cwblheir yr arolwg byddwn yn darparu dyfynbris ac esboniad o’r gwaith rydym yn argymell ei gwblhau.
  • Os derbyniwch ein argymhellion a’r dyfynbris, bydd technegwyr hyfforddedig BCC yn cwblhau’r gwaith mor synhwyrus a phosib, tra’n ymdrechu i leihau aflonyddwch i rhediad dydd-i-ddydd eich sefydliad.

 

Mae gofyn i fusnesau a sefydliadau sydd yn prosesi a chasglu delweddau CCC gofrestri a chydymffurfio â Deddf Amddiffyn Data.  Gall BCC eich cynorthwyo i gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth yma drwy gynnig gweithdai a gwasanaethau ymgynghori.

 

Cysylltwch gyda ni heddiw i drefni arolwg.



 

 

 

 

 

 

Our employees can move from site to site and no matter where they log in, they are presented with the exact same desktop and with familiar access to applications and files, all of which means they are immediately productive from the moment they log on.

Edna Holmes

Rhyal Engineering

BCC IT ar Twitter

Ymlaciwch

Canolbwyntiwch ar eich busnes

Leave IT to us

Cysylltwch gyda ni

Cwblhewch y ffurflen isod i ddanfon neges at BCC

Cynorthwywch ni i osgoi SPAM trwy dicio’r blwch isod

Website Design Internet Creation