Â
Bellach mae gwasanaethau gwesteia megis SaaS (Software as a Service), IaaS (Infrastrucutre as a Service) a PaaS (Platfotm as a Service) wedi aeddfedi ac cynnig opsiynau cost-effeithiol amgen i’r dull traddodiadol o gynnal TG ar eich safle.
Cyniga BCC nifer o ddatrysiadau gwesteia integredig sy’n eich galluogi i gadw rheolaeth llwyr o’ch systemau tra’n manteisio ar ein arbenigedd i ddelio gyda’r beichiau arferol sy’n effeithio a’r prosiectau TG cymhleth.
Â
Beth rydym yn ei gynnig
Yn amlwg bydd anghenion penodol eich busnes yn penderfynu pa ddatrysiad sydd yn briodol i’ch sefydliad, felly mae’r gwasanaethau gwesteia BCC yn cynnwys:
Â
Â
Exchange yn y Cwmwl
Meddalwedd Microsoft Exchange Server yw’r datrysiad negeseuo a chydweithio mwyaf clodfawr ar draws y byd. Mae’n galluogi holl nodweddion rhannu gwybodaeth, dyddiaduron ac e-byst oddi fewn Microsoft Outlook.
Mae Exchange yn feddalwedd hynod gymhleth sy’n mynnu arbenigedd dwys i’w ddarparu, o ganlyniad gall y gost i fusnesau bach bod yn sylweddol oherwydd:
Mae angen nifer o weinyddion i gwrdd a chanllawiau arferion-gorau
Gall cost y meddalwedd a chaledwedd eu hun fod y tu hwnt i gyllideb rhai busnesau
Mae angen gofod priodol i osod yr offer, yn ogystal a’i cynnal
Mae datrysiad Exchange yn y Cwmwl yn cynnig yr union ‘run nodweddion a gweithredai â ddatrysiad traddodiadol ond yn osgoi’r costau cychwynnol, gofidiau a thrafferthion technegol. Trwy ddefnyddio Exchange yn y modd yma, mae BCC yn ei sefydlu, ei gynnal a’i weinyddu am dal-ar-raddfa yn unol a’r nifer o ddefnyddwyr bob mis. Rydym yn rheoli popeth ar eich rhan gan gynnwys sganio ar gyfer firws, diogelu yn erbyn spam, cynhaliaeth gwasanaeth, ôl-gopïo ac uwchraddio meddalwedd.
Bwrdd Gwaith yn y Cwmwl
Mae datrysiad Bwrdd Gwaith yn y Cwmwl gan BCC yn eich rhyddhau i weithio ar ffeiliau, e-byst a rhaglenni busnes o unrhyw le sydd a chysylltiad i’r we. Byddwch yn gweld eich bwrdd gwaith rhith, yn union fel yn y swyddfa, ar unrhyw ddyfais – PC, gliniadur, tabled neu ffôn.
Trwy ddefnyddio Bwrdd Gwaith yn y Cwmwl medrwch fod yn sicr bydd eich rhaglenni busnes yn llwyr weithredol, gan gynnwys Microsoft Office, Sage, meddalwedd CRM ac yn y blaen. Hefyd mae modd addasu bwrdd gwaith grwpiau o ddefnyddwyr neu unigolion i gael at meddalwedd busnes penodol, arbenigol.
Does dim angen poeni am brynu, cynnal ac ôlgopïo offer gweinydd eich hun. Cynhaliwn popeth mewn canolfannau data ardystiedig i ISO27001, dibynadwy a diogel yn y Deyrnas Unedig. Gwarchodir a diogelir eich data gyda chefnogaeth technegol ar gael 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae Bwrdd Gwaith yn y Cwmwl yn ddatrysiad mae BCC yn rheoli’n llwyr gan olygu bod eu ddefnyddio yn syml o safbwynt eich staff, a gan ei fod mor addasol yn boblogaidd iawn gan rheolwyr.  Cyniga ddatrysiad sydd yn cwrdd â gofynion y busnesau mwyaf heb y gost a’r gofid o rhedeg offer gweinyddu eich hun.
Rhaglen yn y Cwmwl
Gyda egwyddorion tebyg i Fwrdd Gwaith yn y Cwmwl, cyniga gwasanaeth Rhaglen yn y Cwmwl gan BCC rhaglenni megis Sage, Microsoft SQL neu SharePoint wedi eu rheoli’n ganolog.
I osgoi’r arferiad traddodiadol, drudfawr o storio a chopïo data rhwng nifer o beiriannau yn eich sefydliad, mae datrysiad Rhaglen yn y Cwmwl yn golygu bod BCC yn gosod eich meddalwedd ar weinydd safonol, pwerus a diogel sydd ar gael o unrhyw le sydd a chysylltiad i’r we. Does dim angen nifer o gopïau. Does dim angen lawrlwytho.
Os yw eich anghenion cronfa ddata bellach yn ormodol i’r isadeiledd, ystyriwch symud y baich technegol at weinyddion pwerus, cyflym a diogel BCC bydd yn eich galluogi i drin data anferth. Neu, os ydych yn hapus gyda isadeiledd technegol eich sefydliad, ond am sicrhau bod rhaglenni allweddol ar gael o unrhyw le ar unrhyw ddyfais, yna gall ddatrysiad Rhaglen yn y Cwmwl fod yn ddelfrydol i chi.
Yn yr un modd a Bwrdd Gwaith yn y Cwmwl, medrwch cael at eich data yn gydamserol ar ddyfeisiadau PC, MAC, iPad, andorid neu iPhone.
Beth i ddisgwyl wrthym
Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol i sefydlu canolfan ddata diogel o’r safon uchaf i’ch galluogi i fanteisio ar dechnoleg gwesteia megis SaaS, PaaS ac IaaS heb y gost arferol. Os dewiswch ddefnyddio gwasanaethau gwesteia BCC byddwch yn defnyddio offer o’n eiddo, nid ydym yn is-gontractio!
I ddarganfod mwy am ein gwasanaethau gwesteia a’r manteision i’ch busnes, cysylltwch gyda ni.
Ymlaciwch
Canolbwyntiwch ar eich busnes
Leave IT to us
Cwblhewch y ffurflen isod i ddanfon neges at BCC
Website Design Internet Creation