Â
Gall cadw rheolaeth ar eich copïau wrth gefn a monitro y broses o ôl-gopïo fod yn rhwystredig, yn enwedig pan bod rhywbeth yn mynd o’i le. Mae BCC wedi datblygu gwasanaeth rheoli ôl-gopïo i sefydliadau sydd angen y sicrwydd bod ei data, gwybodaeth cyfrinachol ac asedau digidol yn ddiogel yn y cwmwl.
Gyda gwasanaeth ôl-gopïo i’r Cwmwl BCC gallwch adael popeth i ni – byddwn yn eich hysbysu os eith rhywbeth o’i le, felly medrwch anghofio am y pen-tost dyddiol o rheoli’r copïau!
Beth rydym yn ei gynnig
Mae debygol bod unrhyw weinydd canolog yn hanfodol i rhwydwaith sefydliad; felly mae’n bwysig bod eich dewis o ddarparwr ôl-gopïo yn adlewyrchu hyn. Rydym yn cynnig nifer o opsiynau ôl-gopïo i’r cwmwl ar gyfer data o gyfrifiaduron, gliniaduron, gweinyddion a rhwydweithiau cymhleth.
Cynigwn y gwasanaethau o ganolfannau data preifat, achrededig i safonau ISO yn y DU, gyda’r sicrwydd bod eich data yn cael ei drosglwyddo’n ddiogel gan ddefnyddio ein meddalwedd ôl-gopïo lleol.
Beth i ddisgwyl wrthym
Mae ein datrysiadau ôl-gopïo i’r cwmwl yn cynnwys:
Diogelwch eich busnes gyda gwasanaeth ôl-gopïo i’r cwmwl wrth BCC. Cysylltwch gyda ni i drafod ymhellach.
Ymlaciwch
Canolbwyntiwch ar eich busnes
Leave IT to us
Cwblhewch y ffurflen isod i ddanfon neges at BCC
Website Design Internet Creation