Cefnogaeth TG

 

O busnesau bach sydd ar gychwyn i gwmnïau mawr hir-sefydledig – gall unrhyw sefydliad manteisio ar ein gwasanaethau cefnogaeth TG a Ddesg Gymorth hynod effeithlon. Bydd cydweithio gyda BCC yn sicrhau bod eich buddsoddiad TG yn eich gyrru tuag at lwyddiant. Pan mae’n dod i dechnoleg, ymlaciwch a gadewch y cyfan i ni.

P’run eich bod yn chwilio am arbenigwr TG ar-alwad, angen arbenigedd ychwanegol i atgyfnerthu eich staff TG neu hyd yn oed am benodi “adran Cefnogaeth TG allanol”, mae ystod o wasanaethau cymorth a chefnogaeth BCC yn cwmpasu holl anghenion busnes.

 

 

Beth rydym yn ei gynnig

 

Adran TG Allanol – Holl manteision o adran TG fel rhan o’ch sefydliad, heb y gost. Mae’r lefel yma o wasanaeth yn cynnwys nifer anghyfyngedig o alwadau am gefnogaeth ar eich safle neu dros-y-ffôn, ynghyd a chynhaliaeth rhagweithiol a monitro gweithredol. Gallwch fod yn sicr eich meddwl bod eich sustemau yn ddiogel, cadarn ac yng nghydymffurfio. Mae ein pecyn Adran TG Allanol yn seiliedig ar bartneriaeth gyda phwyslais ar gynnig cyngor ac arweinyddiaeth ar holl faterion technegol gall effeithio eich sefydliad.

 

Cefnogaeth ar-safle – Cymorth TG am bris penodol sydd yn lleihau gofid, gwella cynhyrchiant ac yn hwyluso tyfiant eich sefydliad – dyma’r dewis perffaith i atgyfnerthu unrhyw adran TG mewnol. Gadewch i’r arbenigwyr TG yn eich busnes arwain ar y penderfyniadau strategol gan wybod bod holl adnoddau tîm BCC IT i’w cefnogi wrth gefn.  Mae’r pecyn yma yn cynnwys cefnogaeth anghyfyngedig dros-y-ffôn ac ar-safle yn ogystal a chynhaliaeth rhagweithiol a monitro gweithredol.

 

Cefnogaeth o bell – Ymateb hynod gyflym ag effeithiol i’ch anghenion cefnogaeth TG gan Ddesg Gymorth ymroddgar BCC IT. Cynigwn cefnogaeth TG o bell anghyfyngedig i unrhyw safle ar draws y byd sydd a chysylltiad digonol i’r rhyngrwyd.

 

Beth i ddisgwyl wrthym

Yn y bôn, nod BCC yw eich cynorthwyo i oresgyn rhwystrau technegol gall leihau elw neu iechyd ariannol eich sefydliad.  Ar y lefel uchaf, gall cefnogaeth BCC darparu’r seiliau TG sy’n angenrheidiol i gynnal yr egwyddorion busnes sy’n enwogi eich sefydliad.

Pa un bynnag o’r lefelau o gefnogaeth sy’n well gennych, anela BCC i gynnig y gwasanaetha gorau posib try deilwra’r pecyn i’ch anghenion penodol a chynnig pris wedi ei osod a’i gytuno.

Cysylltwch nawr i drafod eich opsiynau, ac os penderfynwch bod cytundeb cefnogaeth BCC yn iawn i chi, gallwn ddechrau ar y gwaith trwy gynnal archwiliad o’ch systemau.



 

 

 

 

 

 

 

As our needs have evolved and our IT requirements matured, BCC have always been on hand to advise and help us make the right choices. They have been with us every step of the way from when we first had a 56K modem to helping us move to servers then onto NAS drives and now utilising the cloud to improve our business efficiency. This coupled with the comprehensive service they provide means that we now rely on them wholly for IT support. Our proactive onsite support agreement ensures that if they cannot solve a problem remotely they guarantee to get someone onsite to fix it. This gives us complete peace of mind.

Ade Gunn

Howies

BCC IT ar Twitter

Ymlaciwch

Canolbwyntiwch ar eich busnes

Leave IT to us

Cysylltwch gyda ni

Cwblhewch y ffurflen isod i ddanfon neges at BCC

Cynorthwywch ni i osgoi SPAM trwy dicio’r blwch isod

Website Design Internet Creation